
Prynu cyfranddaliadau
Cynnig Cyfranddaliadau Cymunedol
Mae YnNi Newydd yn falch o rannu diweddariad pwysig ar ein cynigion cyfranddaliadau cymunedol ar gyfer Fferm Solar Bretton Hall.
Diolch i’r gefnogaeth gref rydym wedi ei derbyn gan y cyhoedd a gan sefydliadau ynni cymunedol partner, rydym bellach wedi cyrraedd ein targed isafswm. O ganlyniad i hyn mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo grant o £1.95 miliwn drwy’r Gronfa Ynni Leol i gefnogi adeiladu Cam Un y fferm solar. Mae’r cyllid hwn yn golygu bod Cam Un bellach wedi ei ariannu’n llawn ac yn barod i symud ymlaen i’r cam adeiladu.
Oherwydd yr hynt cadarnhaol hwn rydym yn ymestyn y dyddiad cau i ganiatáu i fwy o bobl gymryd rhan ac i’n helpu i gyrraedd ein targed estynedig. Bydd yr offrym cyfranddaliadau bellach ar agor tan 28 Chwefror oni bai y cyrhaeddir y tanysgrifiad uchaf yn gynharach.
Bydd cyrraedd ein targed estynedig o £610,000 yn galluogi YnNi Newydd i ail-ariannu elfen benthyciad £180,000 y pecyn cyllido gan y Gronfa Ynni Leol. Bydd ail-ariannu’r benthyciad yn cynyddu’r manteision cymunedol tymor hir ac yn sicrhau bod mwy o’r enillion yn llifo’n uniongyrchol at ein haelodau a’n cronfa gymunedol yn y dyfodol yn hytrach na benthycwyr allanol.
Dyma gyfle i ddod yn rhan o brosiect ynni adnewyddadwy sy’n eiddo i’r gymuned ar adeg pan fo prif gyllid adeiladu eisoes wedi ei gadarnhau. Mae pob buddsoddiad yn cryfhau’r sylfeini ar gyfer datblygu’r cynllun 40 MWp llawn, sy’n rhagweld creu mwy na £100 miliwn ar gyfer cronfa gymunedol tymor hir ar ôl cwblhau’r prosiect yn ei gyfanrwydd.
Gallwch ddarllen y Dogfen Offrym Cyfranddaliadau lawn, y Cynllun Busnes a’r Model Ariannol drwy’r dolenni isod, neu gallwch wneud cais am gyfranddaliadau yn uniongyrchol.
