Pwy ydym ni?

Pwy ydym ni?

Mae’r fferm solar yn cael ei datblygu gan YnNi Newydd, cymdeithas budd cymunedol a sefydlwyd gyda’r pwrpas o ddefnyddio elw i gefnogi prosiectau eraill sydd yn cynnig buddion cymdeithasol.

Mae gan ein cyfarwyddwyr ystod o sgiliau a phrofiad wrth ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy sy’n eiddo i’r gymuned yng Nghymru a Lloegr.

Cyfarfod â’n Cyfarwyddwyr

Dave Gittins

Mae gan Dave dros 15 mlynedd o brofiad gweithio yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, gan ddenu a dosbarthu cyllid ar gyfer datblygu cymunedol, adfywio gwledig ac ynni adnewyddadwy cymunedol.

Ar hyn o bryd mae’n Bennaeth Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd yn Severn Wye, elusen gynaliadwyedd sy’n gweithio ledled Cymru a De Orllewin Lloegr.

Mae Dave hefyd yn gyfarwyddwr gwirfoddol Ymddiriedolaeth Dyffryn Dyfrdwy, sefydliad datblygu cymunedol yn Wrecsam sy’n rheoli eiddo i gynhyrchu elw i’w ail-fuddsoddi yn y gymuned.

Grant Peisley

Entrepreneur cymdeithasol, ymarferydd lleoliaeth ac ymgynghorydd cymunedau cynaliadwy. Sefydlodd Datblygiadau Egni Gwledig (DEG) sydd wedi helpu dros 60 o grwpiau cymunedol yng ngogledd-orllewin Cymru ar brosiectau ynni, ac sydd wedi derbyn cydnabyddiaeth yng Ngwobrau Ynni Gwyrdd Cymru, Gwobrau Adnewyddu Cymru, gwobrau Cynnal Cymru a Gwobrau Academi Gynaliadwy Cymru am waith yn y Gymuned Ynni. Mae Grant hefyd yn Gyfarwyddwr Ynni Cymunedol Cymru ac YnNi Teg.

Rob Proctor

Robert Proctor yw Rheolwr Datblygu Busnes Ynni Cymunedol Cymru, mae wedi bod wrth wraidd datblygu’r sefydliad, sydd erbyn hyn â thros 60 o aelodau ledled Cymru.. Mae ganddo dros 12 mlynedd o brofiad o weithio yn y sector gymunedol ac amgylcheddol ac mae wedi arbenigo mewn Ynni Cymunedol dros y 3 mlynedd diwethaf.

Stephen Savory

Cyn ymddeol o gyflogaeth llawn amser roedd Stephen Savory yn bensaer a rheolwr prosiect ym Mhrifysgol Manceinion a Chymdeithasau Tai yn Salford a Lerpwl, lle roedd ei waith yn cynnwys prosiectau a rhaglenni effeithlonrwydd ynni. Mae’n gyfarwyddwr sefydlu Chester Community Energy ac yn aelod gweithgar o Fforwm Cynaliadwyedd Caer. Rhwng 2011 a 2017 roedd yn gyfarwyddwr New Charter Homes a New Charter Building Company ym Manceinion.

John Carrier

Mae John yn byw yn Tattenhall, mae ganddo ddiploma ôl-raddedig mewn gwneud penderfyniadau amgylcheddol ac mae’n Weithiwr Proffesiynol Rheoli Prosiect ardystiedig, ar ôl dal swyddi uwch reolwr prosiect yn Shell, lle bu’n gweithio am 34 mlynedd, ar brosiectau Purfa, Manwerthu a lleihau CO2. Ar ôl ymddeol, cefnogodd John grwpiau gweithredu hinsawdd cymunedol gan ddechrau yn 2007 yn Stratford upon Avon, ac yna, ar ôl symud i Gaer yn 2014, daeth yn aelod ac yn fuddsoddwr yn CCEL, gan ddod yn gyfarwyddwr yn 2022.

Gareth Tucker

Mae Gareth Tucker yn beiriannydd siartredig sydd ag ugain mlynedd o brofiad yn gweithio gydag ynni adnewyddadwy a thechnoleg carbon isel, gan gynnwys cymryd rhan mewn nifer o brosiectau ynni cymunedol. Mae’n gweithio i Ynni Sir Gar ac yn gyfarwyddwr y datblygwr ynni adnewyddadwy Seren Energy, sydd wedi gweithio gyda llawer o grwpiau ynni cymunedol. Mae Gareth hefyd yn gyfarwyddwr SCEES a TrydaNi.

YnNi Teg sy’n rheoli’r prosiect o ddydd i ddydd, cymdeithas budd cymunedol yw YnNi Teg sydd â phrofiad o ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy sy’n eiddo i’r gymuned.

Rydym yn gweithio gyda sawl partner er mwyn darparu gwasanaethau arbenigol i ni wrth ddatblygu’r fferm solar. Ein hymgynghorwyr cynllunio yw MABBETT, a’n harweinydd ar ddylunio a chysylltiad grid yw CHL – a oedd hefyd yn allweddol wrth ddod o hyd i’r safle.

Rhannu...