
Fferm Solar Bretton Hall
Croeso i’n gwefan.
YnNi Newydd Cyfyngedig ydym ni – cymdeithas budd cymunedol sydd â gweledigaeth:
- datblygu fferm solar sy’n eiddo i’r gymuned i gynhyrchu hyd at 30 megawat o ynni glân, adnewyddadwy,
- galluogi perchnogaeth gymunedol o’r fferm solar fel ased sy’n creu incwm
- defnyddio’r arian dros ben i ddarparu budd cymunedol go iawn
Bydd hyn yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd trwy leihau allyriadau carbon wrth sicrhau’r buddion mwyaf posibl i gymunedau lleol.
Rydym yn dymuno datblygu ein fferm solar yn Bretton Hall, Chester Road, Sir y Fflint, CH4 0DF. Os y’wn cael ei adeiladu, y prosiect hwn fydd y fferm solar fwyaf yn y DU sy’n eiddo i’r gymuned a gobeithiwn hefyd y bydd hwn yn fodel i gymunedau eraill ei efelychu.
Datblygiadau ar Gynllunio a llythyrau cefnogaeth
Mae ceisiadau cynllunio ar gyfer ochrau Sir y Fflint a Cheshire y safle wedi cael eu cyflwyno a buaswn yn ddiolchgar iawn pe baech yn anfon llythyr o gefnogaeth at awdurdodau cynllunio.
Am ragor o wybodaeth ac enghraifft o lythyr o gefnogaeth, ewch i Diweddariadau ar Ddatblygu.
