Postiwyd ar

Fferm Solar Neuadd Bretton: Fferm solar fwyaf y DU ym meddiant y gymuned yn mynd dros glwyd arall

Mae cynlluniau i godi fferm solar 30MW ym meddiant y gymuned ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr yng ngyffiniau Caer wedi mynd un cam ymhellach at eu gwireddu gyda rhoi caniatâd cynllunio gan Gyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer am un hanner o’r datblygiad arfaethedig. 

Mae Ynni Newydd yn credu mai’r prosiect hwn fydd y fferm gymunedol fwyaf ym meddiant y gymuned ac y bydd yn nodedig yn y sector ynni cymunedol yn y DU yn fwy eang. Caiff pobl a sefydliadau lleol eu hannog i brynu cyfranddaliadau yn y gymdeithas gan ddod yn aelodau ohoni. Hyd yn hyn rydym ni wedi derbyn dros 200 mynegiant o ddiddordeb, bydd hyrwyddo’r cynllyn yn cael ei ehangu nawr yn y Flwyddyn Newydd 2024 wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen tuag at ei osod yn ei le. Bydd aelodau yn berchnogion rhannol ac yn derbyn llog ar eu cyfranddaliadau, gyda refeniw dros ben a ragwelir i grynhoi hyd at £filiynau dros yr oes weithredol, yn mynd tuag at ariannu prosiectau o “fudd cymunedol”.

Mae’r safle yn cwmpasu 120 acr o dir cyfochrog – un hanner yng Nghymru a’r hanner arall yn Lloegr. Roedd hi’n rhaid cyflwyno dau gais cynllunio ynghyd ag asesiad manwl o’r effaith amgylcheddol i’r ddwy set o gyrff statudol ar y ddwy ochr i’r ffin, ynghyd ag asesiad manwl o’r effaith amgylcheddol. Mae’r tir ar ochr Swydd Caer tu mewn i’r Llain Las ac roedd hi’n rhaid i bwyllgor cynllunio Cyngor Gorllewin Swydd Caer a Chaer benderfynu a oedd yna gyfiawnhad amgylcheddol, cymdeitthasol ac economaidd digonol i oresgyn y rhagdybiaeth yn erbyn datblygu yn y Llain Las. . Wrth siarad yn y cyfarfod cynllunio, dywedodd aelod o’r pwyllgor Cynghorydd Myles Hogg: “Rwy’n amddiffynwr brwd o’n llain las werthfawr ac felly’r maen prawf sydd gennyf i bob amser yw gofyn yw ‘a oes unrhyw amgylchiadau arbennig?’. Rwy’n credu bod yn yr achos hwn. Nid yw’r tir, fel clywsom ni, o ansawdd amaethyddol da ac mae cynhyrchiant ynni gwyrdd yn hanfodol.’’

Yn ogystal â chadw cynhyrchiant amaethyddol ar y caeau drwy barhau i droi defaid allan i bori arnyn nhw, roedd adroddiad y swyddog cynllunio yn nodi bod y cynllun yn ‘cynnwys mesurau arwyddocaol ar gyfer cynyddu bioamrywiaeth hirdymor drwy greu glaswelltiroedd niwtral cyfoethog o ran rhywogaethau’ a chynyddu maint ac amrywiaeth gwrychoedd. Ar yr 17eg o fis Awst cefnogodd y pwyllgor cynllunio’r datblygiad arfaethedig yn unfrydol a chafodd ei gyfeirio wedyn at yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer penderfynu a ddylid ‘galw’ ar y penderfyniad i mewn i’w adolygu, erbyn 8fed o fis Medi 2023 – Aeth y dyddiad hwnnw heibio erbyn hyn! Newyddion ardderchog felly!!

Beth Nesaf

Yng Nghymru, caiff y prosiect ei ystyried yn Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol a chafodd ei asesu gan Arolygiaeth Gynllunio Cymru. Mae’r penderfyniad terfynol i gymeradwyo yn gorwedd gyda’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a fydd yn cyhoeddi ei phenderfyniad terfynol tua diwedd y flwyddyn.

Ein Diolch

Mae gan y gymdeithas fwrdd gwirfoddol yn cynrychioli diddordebau cymunedol yn dod at ei gilydd o’r ddwy ochr i’r ffin genedlaethol – Chester Community Energy ltd, Asiantaeth Ynni Hafren Gwy, Ynni Teg Cyf a Datblygiadau Egni Gwledig (DEG). Mae YnNi Newydd yn ddiolchgar am gefnogaeth leol, trwy dderbyn llawer o lythyrau o gefnogaeth o Gymru a Lloegr a hefyd am gefnogaeth grantiau cyhoeddus a dderbyniwyd oddi wrth Lywodraethau Cymru a’r DU fel ei gilydd a chyngor gan asiantaethau llywodraethol sydd wedi ei helpu drwy broses ddatblygu faith a manwl.

Derbyniodd y prosiect hwn gyllid grant oddi wrth Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, y Gronfa Ynni Cymunedol [a sefydlwyd gan yr Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol] a benthyciadau gan Fanc Datblygu Cymru a Banc Cymunedol Robert Owen.

Dywedodd llefarydd ar gyfer Chester Community Energy:

“ Rydym ni wrth ein boddau am fod y prosiect ynni cymunedol mawr hwn, wrth gydweithio â sefydliadau yng Nghymru a Lloegr wedi derbyn cymeradwyaeth cam cyntaf fel hyn. Mae Chester Community Energy yn gweithio yn agos â Chyngor Gorllewin Swydd Caer a Chaer i nodi prosiectau i ddarparu ynni adnewyddadwy i adeiladau ac ysgolion cymunedol, serch hynny bydd Fferm Solar Neuadd Bretton yn cyflawni llawer mwy o ran cwrdd â nodau argyfwng hinsawdd y Cyngor nag y gallem ni ar ein pennau ein hunain”.

Bod yn Aelod:

Os ydych chi’n dymuno cwblhau mynegiant o ddiddordeb, a/Neu dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y fferm solar ewch i https://www.brettonhallsolar.co.uk/prynu-cyfranddaliadau/?lang=cy

Rhannu...